Ynglŷn â’r cwrs hwn:
Bydd ein Prentisiaeth GChDDP lefel 3 yn helpu i ddatblygu gwybodaeth, sgiliau a chymhwysedd galwedigaethol dysgwyr mewn lleoliadau Gofal Plant. Nod y Brentisiaeth hon yw asesu a datblygu gwybodaeth a sgiliau’r dysgwr o weithio gyda phlant mewn lleoliadau sy’n canolbwyntio ar ofal, dysgu a datblygiad.
Mae’r Brentisiaeth hon yn addas ar gyfer dysgwyr sy’n gweithredu’n fwy annibynnol, gan ymgymryd â chynllunio’r cwricwlwm, cynllunio gweithgareddau a rhai agweddau ar oruchwylio staff. Er enghraifft, y rhai sy’n gweithio mewn:
· Meithrinfeydd · Lleoliadau gofal dydd
· Crèches · Gwasanaethau plant y GIG
· Gwarchodwyr plant
Bydd gofyn i ddysgwyr ymgymryd â chymysgedd o unedau gorfodol ac unedau dewisol (byddwn yn gweithio gyda chi i benderfynu pa unedau dewisol sy’n berthnasol i’ch rôl, a’ch busnes). Mae’r unedau gorfodol yn cynnwys:
· Hyrwyddo ymarfer craidd mewn gofal, chwarae, dysgu a datblygiad plant
· Hyrwyddo chwarae, dysgu, twf a datblygiad
· Hyrwyddo maeth a hydradiad yn y blynyddoedd cynnar
· Ymateb i salwch plentyndod, plâu/heintiau, clefydau ac imiwneiddiad Pan fyddwch yn cytuno i ymgymryd â Phrentisiaeth, efallai y bydd gofyn i chi gwblhau cymwysterau Sgiliau Hanfodol, yn dibynnu ar eich cymwysterau blaenorol, lefel y Brentisiaeth rydych yn ei chwblhau a’ch anghenion penodol chi eich hun.
Bydd y cymhwyster hwn yn cael ei gyflwyno’n bennaf drwy sesiynau 1-i-1 gydag aelod o’n tîm cyflwyno, gan ddefnyddio cymysgedd o sesiynau dysgu wyneb yn wyneb ac o bell. Ar ôl cofrestru, byddwn hefyd yn dyrannu asesydd i’r dysgwyr. Bydd yr asesydd yn ymweld â’r dysgwr naill ai yn eu gweithle neu o bell (er enghraifft, trwy Microsoft Teams) yn fisol, drwy gydol y cymhwyster, er mwyn cefnogi cynnydd, arsylwi a gosod tasgau
Caiff dysgwyr eu cefnogi a’u hannog i gyrraedd eu potensial llawn yn eu diwydiant dewisol drwy gydol eu cymhwyster. Gall dysgwyr llwyddiannus symud ymlaen i’r Brentisiaeth Ymarfer Broffesiynol GChDDP Lefel 4 Mae cyfleoedd cyflogaeth pellach yn cynnwys:
· Ymarferydd Meithrin
· Ymarferydd Grŵp Chwarae
· Gweithiwr Cymorth Plant y GI
Er mwyn dechrau prentisiaeth yng Nghymru, mae angen i chi fod: · yn 16 oed neu’n hŷn (nid oes terfyn oedran uchaf)
· yn byw yng Nghymru
· ddim mewn addysg llawn amser
· ddim yn derbyn unrhyw gyllid arall gan Lywodraeth Cymru
· Gallwch chwilio a gwneud cais am swyddi gwag Prentisiaethau yma
Os ydych chi’n bwriadu ymgymryd â chymhwyster Prentisiaeth fel ffordd o uwchsgilio yn eich rôl bresennol, bydd angen i chi hefyd:
· fod yn gweithio am o leiaf 16 awr
· gael cefnogaeth eich cyflogwr i ymgymryd â’r cymhwyster · ymrwymo i ymgymryd â 4-6 awr o astudio bob mis ar gyfartaledd
· gweithio mewn rôl sy’n berthnasol i’r cymhwyster
· cael eich cyflogi am o leiaf 51% o’ch oriau contract yng Nghymru